Cyfeiliant Lliwiau'r Hydref
Unawd Blwyddyn 5 a 6 Eisteddfod Treuddyn.
Geiriau:
Pwy fu neithiwr mor brysur gyda'i baent yn y wig,
Gan ei strempian yn lliwgar hyd y dail ar y brig?
Cafodd hwyl a'r lliw oren, ac fe beintiodd rai'n aur,
A rhai sgarlad ysblennydd fel lliw mantel y maer.
Roedd o'n chwerthin yn uchel ac yn gwibio drwy'r coed.
A gadawidd y deiliach yn strim stram wrth ei droed.
Yna cuddiodd ei lanast gyda niwl gwyn fel mwg,
Ond fe wn i mai'r Hydref a fu ddoe'n hogyn drwg!